O dyred/tyred addfwyn Oen

(Ofni a hyderu)
O, tyred, addfwyn Oen,
  Iachawdwr dynol ryw,
At wael bechadur sydd dan boen,
  Ac ofnau'n byw;
O, nertha'r llesg yn awr,
  I fyn'd o'r llawr yn hy',
Dros greigiau geirwon, serth, i'r làn,
  I'r Ganaan fry.

O, dal fi - ni chaf rym,
  Oddiyma nac o draw,
Os sefyll wnaf, ni safaf ddim,
  Ond yn Dy law;
Addewid nefoedd faith,
  Yw'm cymhorth perffaith, gwir,
Ni chyfeiliornaf ar fy nhaith
  I Salem dir.

Am fod fy Iesu'n fyw,
  Byw hefyd fydd ei saint,
Er gorfod goddef poen a briw,
  Mawr yw eu braint:
Bydd melus lanio draw,
  'Nol bod o dòn i dòn,
Ac mi rof ffarwel maes o law
  I'r ddaear hon.

              - - - - -
        1,(2),3,4,5;  1,3,4.

O! tyred, addfwyn Oen,
  Iachawdwr dynol ryw,
At wael bechadur sydd dan boen
  Ac ofnau'n byw;
O! helpa'r llesg yn awr
  I ddringo o'r llawr yn hy,
Dros greigiau geirwon, serth, i'r lan
  I'r Ganaan fry.

Mae'r gelyn llym o hyd
  Yn lefio ei danllyd sa'th,
A minnau'n ofni ca' i ryw bryd
  I deimlo ei brath;
O fewn dy fynwes bur,
  Dwg fi i dir fy ngwald,
I gael meddiannu'r 'ddewid wir
  A brynodd gwa'd.

O! dal fi, 'r wyf heb rym,
  Yr ochr hyn na thraw;
Os sefyll wnaf, ni safaf ddim
  Ond yn dy law:
Addewid nefoedd faith
  Yw 'nghymhorth perffaith gwir
Na chyfeiliornaf ar fy nhaith
  I Salem bur.

Yn eithaf grym y dŵr,
  A'r tonnau'n curo i lawr,
Tywysog nefoedd yw fy nhŵr,
  A'm Ceidwad mawr;
Fe ddeil my mhen i'r lan,
  Cans ffrind i'r gwan yw Ef;
Fe'm dwg o'm cystudd yn y man
  I deyrnas nef.

Dewch, bellach, yn eich grym,
  Elynion llym yn haid;
Er maint eich nifer 'faeddwch ddim
  O'r dwyfol blaid;
Fe â'r lluoedd ar eu taith
  Trwy'r dyfroedd maith ymla'n
I'r wlad sy'n llifo
    o fêl a llaeth, -
  Y Ganaan lân.
William Williams 1717-91

Tonau [6684D]:
  Bryngwyn (Jeffrey Pugh, Rhydaman.)
Leoni (alaw Iddewig)
Nest (J T Rees 1857-1949)

gwelir:
  Am fod fy Iesu'n fyw
  Ti Arglwydd yw fy Nhŵr
  Yn eithaf grym y dŵr

(Fearing and being confident)
O, come, gentle Lamb,
  Saviour of human kind,
To a poor sinner who is living
  Under pain and fears;
O, strengthen the feeble now!
  To go from the ground boldly,
Over rough, steep rocks, up
  To the Canaan above.

O, hold me - I have no force,
  From here nor from yonder,
If I stand, I shall not stand
  But in Thy hand;
The promise of vast heaven,
  Is my perfect, true help,
I shall not wander on my journey
  To Salem land.

Since my Jesus is alive,
  Alive also shall be his saints,
Despite having to suffer pain and injury,
  Great is their privilege:
It will be sweet to land yonder,
  After being from wave to wave,
And I shall bid farewell soon
  To this earth.

               - - - - -
 

O come, gentle Lamb!
  Saviour of human kind,
To a poor sinner who is living
  Under pain and fears;
O help the feeble now!
  To climb from the ground boldly,
Over rough, steep rocks, up
  To the Canaan above.

The keen enemy is still
  Levelling his fiery arrow,
And I am fearing getting some time
  To feel its bite;
Within thy pure bosom,
  Draw me to the land of my country,
To get to possess the true promise
  That his blood purchased.

O hold me! I am without any force,
  Either this side or yonder;
If I stand, I shall not stand at all
  But in thy hand:
The promise of vast heaven
  Is my perfect, true help;
I shall not wander on my journey
  To pure Salem.

In the extreme force of the water,
  And the waves beating down,
The Prince of heaven is my tower,
  And my great Keeper;
He will hold my head up,
  Since a friend to the weak is He;
He will draw me from my affliction soon
  To the kingdom of heaven.

Come ye, henceforth, in your power,
  Keen enemies as a swarm;
Despite your number ye shall beat none
  Of the divine party;
The hosts will go on their journey
  Forward through the vast waters
To the land that is flowing
    with honey and milk, -
  The Canaan above.
tr. 2019,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~